Gweledigaeth Dawns i Bawb -
Dechreuais ddawnsio yn 11 oed gyda grwp dawns ieuenctid lleol ac yn 2000, enillais BA (Anrh) Dawns Cyfoes o Brifysgol De Montfort, Caerlyr.
Rwyf wedi gweithio yn y sector dawns proffesiynol ers dros 20 mlynedd fel Ymarferydd Dawns yn y Gymuned, Coreograffydd a fel Arweinydd Cwmni. Mae dawns gymunedol yn angerdd mawr i mi ac nid oes dim yn fwy diddorol na phleserus i mi na thystio pobl o bob oed a gallu yn mynegi eu hunain drwy symud. Rwy’n credu’n gryf y gall unrhyw un ddawnsio ac rydw i’n caru bod Dawns i Bawb yn cynnig y cyfleoedd i bobl ddarganfod hyn.
catherine@dawnsibawb.org
01286 685 220
Mae fy nghefndir mewn rheolaeth theatr broffesiynol. Gweithiais fel Rheolwr Gwerthiant a Marchnata yn Theatr Gwynedd, Bangor, theatr dderbyn oedd yn cyflwyno rhaglen eclectig o ddigwyddiadau celfyddydol rhwng 1989-2008.
Roeddwn hefyd yn gweithio i 'Gwmni Theatr Gwynedd’ oedd yn cynhyrchu gwaith theatr o safon oedd yn teithio Cymru tan 2008. Sioeau megis 'Awe Bryncoch' fersiwn theatr o'r gyfres gomedi poblogaidd S4C 'C'Mon Midffild’ y clasuron Anton Chekhov - 'Y Gelli Geirios' - (The Cherry Orchard), Tennessee Williams 'Y Werin Wydr (The Glass Menagerie) ynghyd a llawer mwy o glasuron Cymreig fel 'William Jones' a 'Y Twr'.
Ers 2008 rwyf yn gweithio fel Rheolwr Gweinyddol i Ddawns i Bawb. Mae'r gwasanaeth mae Dawns i Bawb yn ei ddarparu ar gyfer pob grŵp cymdeithasol yn enwedig dawns o fewn y byd addysg yn rhoi boddhad gyrfa i mi. Mae’r prosiectau addysgiadol yn dangos dawns fel cyfrwng pwerus lle y gellir mynd ar afael ar faterion o bwys.
Yr wyf yn ffodus i weithio yn y byd celfyddydol ac yn credu fod y Celfyddydau ymhob ffurf yn gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
fiona@dawnsibawb.org
01286 685 220
Dechreuais ddawnsio yn 4 mlwydd oed a darganfod yn fuan fod o’n lle ‘diogel’ i mi. Ers
graddio gyda BA (Anrh) mewn Dawns yn 2015, rydw i wedi gweithio ar draws Gwynedd
fel artist ac athrawes dawns lawrydd, cyn cymryd rôl Cydlynydd Dawns gyda Dawns i
Bawb. Rwy’n credu bod gan bawb y potensial i symud a dwi wrth fy modd yn creu lle
i unigolion ail-gysylltu â'u cyrff a dod o hyd i eirfa symud eu hunain. Rwy'n mwynhau
gweithio gyda chenedlaethau gwahanol yn rhoi cyfleoedd i bawb arbrofi dawns. Fy
ngobaith yw gweld dawns yn ysbrydoli hunan hyder, creadigrwydd, iechyd a lles yn ein
cymunedau a dod a phobl at ei gilydd.
O fod yn dair oed hyd heddiw, mae dawns wedi mynd â fi ar daith fel dim arall. Ar ôl graddio gyda chymwysterau Addysgu a Theatr Gerdd yn Lerpwl fe wnes i hyfforddi, perfformio a chystadlu dros y DU cyn dychwelyd i'm cartref yng Ngogledd Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio fel tiwtor dawns llawrydd yng Ngwynedd a Chonwy ac yn fwy diweddar fel Ymarferydd Datblygu i Dawns i Bawb. Credaf fod pawb yn haeddu'r cyfle i fynegi eu hunain drwy gyfrwng dawns. Fy nod bob amser yw cyflwyno sesiynau lle mae'r dawnsiwr yn teimlo'n ddigon diogel i ryddhau eu hunan creadigol. Rwy'n mwynhau gweithio gydag ystod o oedrannau a galluoedd ac rwy'n gyffrous i'r hyn sydd gan y dyfodol i gynnig yn y rôl anhygoel hon.
Pan ddechreuais gyda Dawns i Bawb yn gyntaf roeddwn yn athro hyderus trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Ers cymryd interniaeth blwyddyn gyda nhw yn datblygu dawns ac anableddau ac ers dod yn Ymarferydd Datblygu Dawns yn ddiweddar, gallaf nawr addysgu'n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.nNid yn unig fy iaith sydd wedi datblygu ond rwyf wedi dod yn athro dawns llawer mwy cynhwysol gan ennill llawer iawn o brofiad mewn dysgu ystod eang o oedrannau a galluoedd.
Mae'r dysgu yn barhaus gyda Dawns i Bawb yn darparu mwy o hyfforddiant a dysgu yn gyson. Hyd yn oed gyda'r sefyllfa bresennol - nid yw hyn wedi cyfyngu ar fy natblygiad, dim ond darparu cyfleoedd ar-lein i gael hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol ymhell ac agos.
Cefais fy ngeni yn Jerwsalem, Israel a symudais i Gymru 5 mlynedd yn ôl. Dechreuais ddawnsio ar ddechrau'r cyfnod clo unwaith yr wythnos dros zoom gyda Dawns i Bawb ac roeddwn i wrth fy modd efo fo. Mae dawns yn gwneud i mi deimlo'n hapus, hyderus, egnïol a rhydd. Mae'n fy helpu i fynegi fy emosiynau ac yn helpu gyda fy iechyd meddwl. Mae dod yn rhan o'r tîm hwn, cwrdd â phobl newydd, parhau â'm cariad at ddawns a dysgu pethau newydd yn rhywbeth cyffrous iawn i mi. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn i gael y cyfle hwn i fod yn gynorthwyydd a chael mentora 1-1 gydag ymarferydd datblygu dawns.
Fon Roberts – Cadeirydd
Ann Postle – Is-Gadeirydd
Betsan Llwyd – Is-Gadeirydd
Gwilym Roberts
Meinir Evans
Olwen Green
Eddie Ladd
Llyr ap Rhisiart
Idwal Williams
Carys Wynne-Williams - Cynrychiolydd o Gyngor Celfyddydau Cymru
Mae’r ardal y mae Dawns i Bawb yn gweithio ynddi’n un o harddwch ac ysbryd eithriadol. Mae hi’n ardal eang iawn â’i rhan fwyaf yn wledig ac yn fynyddig. Mae sicrhau mynediad i’n sesiynau felly’n golygu llawer iawn o deithio.
Mae hi hefyd yr ardal â’r incwm cyfartalog lleiaf yn y DU, sy’n cael effaith mawr ar gynaliadwyedd Dawns i Bawb. Mae’r angen i sicrhau mynediad, a’r teithio sydd ymhlwm â hynny, yn golygu bod cost cynnal sesiynau’n uwch na mewn ardaloedd eraill, sydd yn her i ni. Ond rydyn ni isio gwneud mwy, a dyna pam y bu i ni sefydlu Cynllun Prentisiaeth a Rhaglen Arweinwyr Ifanc er mwyn hyfforddi mwy o bobl i weithio – gyda chefnogaeth Dawns i Bawb – yn eu cymunedau.
Mae gan ogledd Cymru hunaniaeth ranbarthol sy’n arbennig iddi hi ei hun. Iaith cyntaf yr ardal ydi’r Gymraeg ac mae’n hanfodol ein bod yn darparu sesiynau a gweithgareddau yn y Gymraeg.
Polisi Preifatrwydd Dawns i Bawb - cliciwch yma
Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru |