Dawns i Bawb yw’r sefydliad ambarel ar gyfer dawns yn y gymuned yng Ngogledd Orllewin Cymru. O Bwllheli i Abergele, o Gaergybi i Dowyn, mae Dawns i Bawb yn gweithio gyda phobol leol, gydag ymarferwyr dawns amatur a proffesiynol a chyda choreograffwyr i hybu dawns yn yr ardal.
Cred Dawns i Bawb y gall pawb ddawnsio ac mae’n gweithio gyda phobl o bob oedran a gallu gan gynnwys grwpiau dan anfantais ac mewn ardaloedd diarffordd i roi cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau dawns amrywiol.
- dosbarthiadau rheolaidd, mewn ysgolion ac ar ôl yr ysgol, prosiectau arbennig, gweithdai, cyflwyniadau a datblygiad proffesiynol
- dawnsio gwerin, dawns greadigol, salsa, dawnsio neuadd ayyb Gall Dawns i bawb gyflawni'r rhain i gyd.
Mae Dawns i Bawb wedi ennill enw da nid yn unig am ddatblygu celfyddyd dawnsio ond hefyd am weithio gyda ffurfiau eraill o ddiwylliant cymunedol megis drama a chelfyddydau gweledol.
Mae prosiectau diweddar gan gynnwys cyfnewid gyda Norwy ac Iwerddon ynghyd â chydweithio gydag artistiaid rhyngwladol blaenllaw (Jozsef Trefeli / Hwngari, Marc Rees / Cymru, Carlos Cortes / Sbaen - DU) yn dangos bod Dawns i Bawb nid yn unig yn gweld ei hun fel darparwr lleol ond hefyd fel rhan o rwydwaith gyda chysylltiadau rhyngwladol.