gweithdai presennol ac i'r dyfodol
Dawns Ieuenctid
Yn cychwyn Sadwrn 25 a Sul 26 Ebrill 2009
Mewn partneriaeth efo Gwasanaethau Addysg Conwy, rydym yn chwilio am bobl ifanc egniol, brwdfrydig a thalentog i fod yn rhan o Grŵp Dawns Ieuenctid Conwy!
Bydd y broses yn cychwyn gyda gweithdy rhagarweiniol.
Yn dilyn y gweithdy bydd y cyfranogwyr yn gymwys i wneud 1 penwythnos arall efo Cai Tomos i greu darn newydd sbon a fydd yn cael ei berfformio mewn 2 neu 3 digwyddiad gan Dawns i Bawb. Mae hwn yn gyfle ffantastig i weithio gyda coreograffydd o fri. Cyfle i ddatblygu eich dawns a sgiliau perfformio. Cychwynnodd Cai ei yrfa gyda Dawns i Bawb ac roedd yntau hefyd yn aelod o Gwmni Dawns Ieuenctid. Ers y dyddiau hynny mae Cai erbyn hyn yn ddawnsiwr proffesiynol uchel ei barch ac yn goreograffydd. Mae wedi gweithio gyda llawer o gwmniau mwyaf clodfawr gan gynnwys Earthfall a Cwmni Dawns Diversions fel coreograffydd/cyfarwyddwr ar y daith “Alternative Routes”. Mae erbyn hyn yn creu ei waith ei hun.
I wneud yn siwr o’ch lle ar y fenter mae ymrwymiad yn angenrheidiol. Os ydych yn gymwys bydd rhaid ichi ymrwymo i weithdy 2, ymarferion a pherfformiadau.
Gweithdy 1
Dyddiad 25 a 26 Ebrill 2009, Neuadd Ddinesig Conwy
Amser: 10am-5pm
Cost: £20 am ddau ddiwrnod
Bydd posibilrwydd o ddefnyddio tacsi o Betws y Coed neu Fangor am £4 am 2 ddiwrnod.
Gweithdy 2
Dyddiad: 2 a 3 Mai 2009, Neuadd Ddinesig Conwy
Amser: 10am-5pm
Cost: £20 am 2 ddiwrnod
Bydd posibilrwydd o ddefnyddio tacsi o Betws y Coed neu Fangor am £4 am 2 ddiwrnod.
Ymarfer a pherfformiad 1
Dyddiad: Sadwrn 9 Mai 2009 / Dangosiad Dawns Ieuenctid Conwy
Amser: i’w gadarnhau
Ymarfer a pherfformiad 2
Dyddiad: Sadwrn 27 Mehefin 2009 / Dangosiad Haf Dawns i Bawb
Amser: i’w gadarnhau
Canolfan: Galeri, Caernarfon
Noddwr Cyngor Chwaraeon Cymru