NEWYDDION CYLLID
Ar Ddydd Mercher 27 Medi, cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru ganlyniadau Adolygiad Buddsoddi Portffolio Celfyddydau Cymru 2023.
Rydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo yn ein cais i barhau fel aelod portffolio ac edrychwn ymlaen at ein cydweithrediad â Chyngor y Celfyddydau yn y dyfodol.
Rydym yn gwybod bod penderfyniadau anodd iawn wedi'u gwneud fel rhan o'r adolygiad hwn ac rydym yn meddwl am gydweithwyr sefydliadau eraill nad oeddent yn llwyddiannus.
Rydym hefyd yn falch o gyhoeddi ein cais llwyddiannus i Gronfa Ffyniant Cyffredin Gwynedd. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddatblygu a chyflwyno Rhaglen Ddawns Gymunedol ar gyfer cymunedau Gwynedd dros y 14 mis nesaf.
FFIWS-FFIT – Sesiynau newydd i bawb 16+ oed
Mwynhewch dipyn o Salsa, Cha Cha Cha, Tango, Jazz a llawer mwy wrth i ni ‘ffiwsio’ yr holl arddulliau dawnsio gwahanol hyn gyda’i gilydd ar gyfer sesiwn ffitrwydd hwyliog, egniol ac addas i bawb:
Pob Dydd Sadwrn (yn dilyn tymor ysgol)
12.00-1.00. Galeri Caernarfon
£5 y sesiwn – sesiwn cyntaf am ddim
Eisiau dod ond dim gofal plant? Dewch a nhw gyda chi! Bydd WIFI, tudalennau lliwio a phensiliau ar gael yn y stiwdio. Mae croeso iddynt hefyd ymuno’r sesiwn.
DAWNSWYR DRE
Mae archebion ar gyfer tymor nesaf Dawnsyr Dre ar lein. Dilynwch y linc i archebu’ch lle: Galeri Caernarfon Cyf, Caernarfon, Gwynedd
FFITRWYDD DAWNS I BOBL 16+ OED
Pob Nos Lun yn dilyn tymor ysgol
7.00-8.00
Galeri, Caernarfon
£5.00 y sesiwn
Angen archebu lle o flaen llaw pob wythnos trwy Galeri – www.galericaernarfon.com
DAWNSWYR DRE
Sesiynau dawns i blant a phobl ifanc gyda Perfformiad Gaeaf ar 3ydd Rhagfyr.
Sesiynau yn addas i bob gallu
Pob Dydd Sadwrn yn Galeri, Caernarfon yn dilyn tymor yr ysgol.
DAWNSWYR DRE 1 (4-6 oed) – 10.00-10.45
DAWNSWYR DRE 2 (7-10 oed) – 11.00-11.45
DAWNSWYR DRE 3 (11+ oed) - 12.00-12.45
£49.50 y tymor (10 Medi – 26 Tachwedd)
Mae rhaid archebu lle o flaen llaw trwy Galeri – www.galericaernarfon.com
TAITH YR EIRA Sioe Aeaf Dawns i Bawb 2022
Dewch ar daith yr eira gyda dawnswyr Dawns i Bawb!
Sioe ryngweithiol sy'n addas i'r teulu cyfan gyda chymysgedd o berfformiad ffilm gan ein dawnswyr cymunedol a pherfformiad byw gan staff Dawns i Bawb.
Dydd Sadwrn, 3ydd Rhagfyr
Studio 2, Galeri, Caernarfon
Tocynnau: £5.00 oedolyn / £3.50 plentyn (dim ond lle i 50 o bobl mewn perfformiad)
Ar werth trwy wefan Galeri – www.galericaernarfon.com
(Hefyd i gynnwys poster Taith yr Eira)
CYMRU: NI – Sioe Newydd i gartrefi preswyl mewn partneriaeth a Chanolfan Ddiwylliant Conwy
Mae Dawns i Bawb wedi derbyn nawdd gan Ganolfan Ddiwylliant Conwy i greu a theithio sioe rhyngweithiol newydd o’r enw ‘Cymru: Ni’ i gartrefi preswyl ledled Conwy. Mae’r gwaith yn rhan o’r prosiect ‘Dance Well’ sy’n datblygu gweithgareddau dawns i wella iechyd a lles ein cymunedau
NEGES GAN EMMA QUAECK – RHEOLWR DEMENTIA ACTIF GWYNEDD
Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn falch o gyflwyno ein hail ffilm o berfformiad dawns. Enw’r ddawns yw “Dathliad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth ‘Summertime’ – Frances Faye.
Unwaith eto, fe grëwyd y ffilm mewn cydweithrediad â Dawns i Bawb ac mae’r ffilm yn serennu pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, disgyblion Ysgol Glan y Môr, cyd-aelodau a staff. Mae’r fideo yn ddathliad o’r ffaith ein bod yn cael dod at ein gilydd eto yn dilyn y pan demig, ac ar ben hynny, y gallwn ddal i symud o hyd!
https://youtu.be/nSgjDLv619g
Swydd Newydd – Ymarferwr Datblygu Dawns
nodwch – mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd ond rydym yn croesawu ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg sydd wedi ymrwymo i ddatblygu eu sgiliau Iaith Gymraeg
Manylion Swydd:
Teitl: Ymarferydd Datblygu Dawns
Oriau: Rhan Amser – 18 awr yr wythnos (yn cynnwys gweithio gyda’r nos ac ar Sadyrnau)
Cyfnod: Cytundeb Blwyddyn
Cyflog: £26,000 pro rata (£13,000)
Ardal: Gwynedd, Conwy ac Ynys Mon gyda prif swyddfa yn Galeri, Caernarfon
Dyddiad Dechrau: Cyn gynted â phosibl
Dyddiad Cau am Ymgeisio: 22.04.22
Hysbysiad Rhestr Fer: 25.04.22
Cyfweliadau a Clyweliadau 4 a 5 Mai
Darllen mwy am swydd Ymarferydd Datblygu Dawns - cliciwch yma
Sesiynau i blant ac oedolion yn dechrau ym mis Ionawr 2022
Rydym yn falch i gyhoeddi sesiynau wyneb i wyneb yn Galeri (Caernarfon) yn dechrau ym mis Ionawr. Oherwydd y sefyllfa Covid barhaus, ni fyddwn yn newid ein cyfyngiadau heblaw am godi niferoedd pob grŵp o 12 o bobl i 15 o bobl. Byddwn yn adolygu hyn ar gyfer hanner tymor Chwefror. Mae'n hanfodol i archebu lle o flaen llaw drwy wefan Galeri. Diolch!
Sioe Nadolig Dawns i Bawb 2021
Mae Dawns i Bawb yn falch i gyhoeddi ein Sioe Nadolig 2021, ‘Golau Nadolig.’ Eleni mae dawnswyr o bob oedran a gallu yn cyflwyno perfformio i chi gyda neges o obaith, mwynhad a llawenydd. Cyfle i chi fwynhau’r sioe gyda’ch teulu yn eich cartref eich hun.
Mae posib archebu tocyn/linc am £2 hyd at 17.00 ar Mercher - 08.12.21
Bydd Dawns i Bawb yn ebostio linc i’r cyfeiriad ebost sydd wedi archebu’r tocynnau ar ddydd Gwener, 10.12.21. Bydd posib gwylio'r sioe o 16:30 ymlaen. Fel cwmni sydd heb dderbyn incwm ers 20 mis, mae Dawns i Bawb yn gofyn yn garedig i neb rannu’r ddolen.
Neges gan Gyfarwyddwr Artistig Dawns i Bawb
Wrth i ni gyrraedd diwedd 2021, hoffwn fyfyrio ar brofiadau'r 21 mis diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i Dawns i Bawb gyda cholled sylweddol o waith a cholli incwm. Popeth sy'n bwysig i'n gwaith – dawnsio gydag eraill a dod â phobl at ei gilydd fu'r pethau yr ydym wedi gorfod osgoi eu gwneud. Ond un peth y mae'r Celfyddydau'n dda iawn am ei wneud yw ymateb ac addasu, a dyna a wnaethom. Er mai dim ond ychydig o brosiectau yr ydym wedi gallu eu rhedeg wyneb yn wyneb, mae'r dawnsio wedi parhau:
Er nad oeddem yn gallu cyflwyno ein Sioe Nadolig yn y theatr am yr ail flwyddyn, mae ein grwpiau wedi gweithio gyda'i gilydd i greu perfformiad hyfryd ar ffilm o'r enw 'Golau Nadolig' gyda negeseuon o oleuni a gobaith. Mae'r perfformiad ar gael i'w brynu o wefan Galeri hyd at y 9fed o Ragfyr. Yn olaf ar ran tîm Dawns i Bawb, dymunaf Nadolig Llawen i chi; cadw'n ddiogel, ac edrych ymlaen at eich gweld yn 2022.
Catherine Young
Cyfarwyddwr Artistig
Dawns i Bawb
Sesiynau Dawns i blant a phobl ifanc Pob Dydd Llyn a Sadwrn Cychwyn 6/9/2021 Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Sesiynau Dawns i blant a phobl ifanc
|
Ffitrwydd Dawns Sesiynau i bobl 16+ Pob Nos Lun 7:00 - 8:00 p.m. Cychwyn 6/9/2021 Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am sesiynau ffitrwydd Dawns
|
Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru |