Y lle perffaith i fod yn ddyfeisgar, dysgu symudiadau, dysgu technegau a sgiliau dawns ond yn fwyaf pwysig, rhywle lle gewch chi fod yn greadigol a chreu eich symudiadau eich hun a phrofi drwy hynny, boddhad perchnogaeth a llwyddiant. Mae Dawns i Bawb yn ysgogi creadigrwydd pawb sy’n cymryd rhan , ac yn trefnu bod hynny mewn awyrgylch cyfeillgar a chynhwysol.
Sesiynau stori, dawnsio a chanu yn y Gymraeg i blant bach 0-3 oed a’u rhieni, mewn partneriaeth â Galeri, Caernarfon. Cysylltwch a Galeri am ddyddiadau sesiynau neu i archebu tocyn.
Rydym yn cynnal rhaglen helaeth o weithgaredd dawns i blant a phobl ifanc o 4-16 oed dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn. Mae sesiynau wythnosol yn dilyn tymor yr ysgol ac yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog ac yn gyfle i bobl ifanc dysgu sgiliau dawns, bod yn greadigol a chymdeithasu. Mae grwpiau yn cael cyfleoedd i berfformio yn ystod y flwyddyn yn cynnwys Sioe Flynyddol Dawns i Bawb a digwyddiadau lleol.
Dawns i Bawb, Uned 2, Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, LL55 1SQ, Cymru |